Newyddion Ymchwil
Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol
Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri.
Darllen erthyglProsiect adfer tir mawn i daclo newid hinsawdd yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cychwyn ar brosiect i adfer tir mawn fel rhan o ymdrech i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
Darllen erthyglMwy o achosion llys ar-lein yn bosib yn dilyn profiad Covid - adroddiad
Gellid cynnal rhagor o achosion llys ar-lein er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch ac effeithlon, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan academyddion Aberystwyth sy'n edrych ar y gyfundrefn gyfiawnder yn ystod y pandemig.
Darllen erthyglCadeirydd Newydd Genomeg Cnydau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae’r Athro Gancho Slavov wedi’i benodi’n Gadeirydd Genomeg Cnydau Germinal yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglGallai pori alpacaod helpu taclo newid hinsawdd - ymchwil
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio a allai pori alpacaod ochr yn ochr ag anifeiliaid eraill helpu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Darllen erthyglAnrhydeddu’r parasitolegydd arloesol Gwendolen Rees ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 (ddydd Mercher 8 Mawrth), mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn ailenwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).
Darllen erthyglAnrhydeddu’r parasitolegydd arloesol Gwendolen Rees ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 (ddydd Mercher 8 Mawrth), mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn ailenwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).
Darllen erthyglAcademydd o Aberystwyth yn datblygu ap i bobl sy’n dysgu Sbaeneg
Mae academydd entrepreneuraidd o Aberystwyth wedi cael cymorth ariannol a mentora i ddatblygu ap newydd ar gyfer dysgu Sbaeneg.
Darllen erthyglPrifysgol Aberystwyth yn sefydlu Uned Beirianneg Newydd
Mae Prifysgol Aberystwyth yn sefydlu Uned Beirianneg newydd i gyflwyno addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, ac arfogi myfyrwyr â’r sgiliau i ddarparu atebion arloesol ar gyfer y dyfodol.
Darllen erthyglArbenigwyr yn trafod Iechyd Cyfunol ym Mhrifysgol Aberystwyth
Wrth i’r byd fynd i’r afael â chanlyniadau pandemig Covid-19 a phryderon ynghylch yr achosion presennol o Ffliw Adar a’r modd y mae wedi heintio mamaliaid, bu academyddion ac arbenigwyr blaenllaw o bob rhan o Gymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 17 Chwefror 2023 i drafod eu syniadau ar Iechyd Cyfunol yng Nghymru.
Darllen erthyglCerbydau hunan-yrru i'w profi mewn cyfleuster newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd ffermio annibynnol, gwasanaethau danfon y filltir olaf a cherbydau hunan-yrru oddi ar y ffordd yn cael eu profi mewn prawf robotig graddfa fawr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglAdnoddau dementia enillwyr Dragon’s Den yng nghanolfan nyrsio Prifysgol Aberystwyth
Mae un o enillwyr cystadleuaeth Dragon’s Den wedi gosod adnoddau ar gyfer addysgu myfyrwyr nyrsio am ddementia fel rhan o Ganolfan Gofal Iechyd newydd Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglGallai athrawon iaith ddefnyddio nofelau graffeg yn hytrach na thraethodau wrth asesu myfyrwyr
Gellid defnyddio clownio, dramâu radio a nofelau graffeg i asesu myfyrwyr sy’n dysgu ieithoedd, yn ôl gwaith sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglMap byd-eang newydd o fywyd y tu mewn i'r Ddaear yn datgelu glo llawn bacteria
Mae glo yn syndod o gyfoethog mewn bacteria yn ôl atlas cyntaf y byd o fioamrywiaeth ficrobaidd yn ddwfn o dan wyneb y Ddaear, a gafodd ei ddatblygu gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglCyfle i ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i droi gwastraff yn borthiant
Gallai ffermwyr ddefnyddio planhigyn cynhenid i Gymru i droi gwastraff amaeth yn borthiant ar gyfer da byw fel rhan o brosiect ymchwil Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglMae angen i lywodraethau “newid yn sylweddol” y modd maen nhw’n delio â’r argyfwng bioamrywiaeth, dywed ymchwilydd
Dyw llywodraethau ddim yn gwneud digon i flaenoriaethu bioamrywiaeth o ran eu polisïau gwyrdd, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth wrth siarad yn COP15 yng Nghanada.
Darllen erthyglAtal chwyn rhag gwenwyno da byw’r byd - darganfyddiad ymchwil rhyngwladol
Mae ymchwilwyr yn Aberystwyth wedi gwneud darganfyddiadau pwysig wrth geisio datblygu dull i atal chwyn rhag gwenwyno da byw ar draws y byd.
Darllen erthyglCeirch a ffa Aberystwyth ar y fwydlen wedi argymhelliad i’r diwydiant
Mae mathau o geirch a gafodd eu bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn fwy tebygol o fod ar y fwydlen, wedi iddynt gael eu hargymell i ffermwyr gan fwrdd diwydiant y llywodraeth.
Darllen erthyglCanolfan ymchwil newydd y Brifysgol i fynd i’r afael â heriau trafnidiaeth
Cafodd canolfan ymchwil newydd yn edrych ar yr heriau trafnidiaeth sy’n wynebu cymdeithas ei lansio’n swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Iau 1 Rhagfyr) gan Ddirprwy Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS.
Darllen erthyglAp newydd i wella’r gefnogaeth i oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth
Bydd prosiect newydd yn yr Brifysgol yn canolbwyntio ar wella’r gefnogaeth i oroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth.
Darllen erthyglGallai cwsmeriaid a chynhyrchwyr elwa o gynllun seren i raddio ansawdd bwyta cig, medd ymchwilwyr
Mae adroddiad terfynol prosiect ymchwil pedair blynedd dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn argymell cyflwyno system raddio ar gyfer cig eidion ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau ansawdd bwyta cig eidion gwarantedig a chyson i ddefnyddwyr.
Darllen erthyglMwy o bori gan anifeiliaid yn bygwth ecosystemau mewn hinsawdd gynhesach
Gall pori anifeiliaid mewn ardaloedd cynnes a sych o’r byd niweidio ecosystemau ond fod yn hwb iddyn nhw mewn sychdiroedd oerach, yn enwedig pan fo gwahanol rywogaethau’n bwydo gyda’i gilydd, yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthyglCyn Archesgob Caergaint yn brif siaradwr digwyddiad lansio Canolfan Ddeialog y Brifysgol
Rôl deialog wrth greu dyfodol gwell fydd testun sgwrs agored rhwng cyn Archesgob Caergaint yr Athro Rowan Williams a’r prifardd ac ysgolhaig yr Athro Mererid Hopwood.
Darllen erthyglGwyddonwyr yn rhybuddio y gallai dros gan mil tunnell o ficrobau ddianc o rewlifoedd sy’n dadmer
Gallai mwy na chan mil tunnell o ficrobau, gan gynnwys rhai sydd o bosib yn niweidiol a rhai llesol, gael eu rhyddhau wrth i rewlifoedd y byd ddadmer, mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth wedi rhybuddio.
Darllen erthyglCnwd Aberystwyth sy’n gwrthsefyll sychder i helpu ffermwyr Affrica
Mae disgwyl i gnwd a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth helpu ffermwyr o Affrica gyflenwi bwyd yn wyneb newid hinsawdd.
Darllen erthyglAcademydd o Aberystwyth yn helpu i wella reslo ym Mhrydain
Mae darlithydd Theori ac Ymarfer Ffilm o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu tuag at 'god ymarfer gwell' ar gyfer reslo ym Mhrydain.
Darllen erthyglPartneriaeth newydd gyda Siapan yn rhoi hwb i ymchwil newid hinsawdd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi partneriaeth newydd gyda phrifysgol o Siapan gan roi hwb i’w hymchwil newid hinsawdd.
Darllen erthyglMeddylwyr blaenllaw i annerch gŵyl ymchwil Prifysgol Aberystwyth
Bydd cyn Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams a Phennaeth BBC Radio 1 Aled Haydn Jones ymysg y cyfranwyr yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.
Darllen erthyglAcademyddion o Aberystwyth yn mapio cwymp ‘cyflym’ llen iâ enfawr
Diflannodd llen iâ a fu ar un adeg yn gorchuddio Prydain ac Iwerddon gyfan yn gyflymach nag a dybiwyd o’r blaen, yn ôl ymchwil Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglCam ymlaen i gynlluniau ar gyfer canolfan sbectrwm a pharc busnes gwyrdd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu’r newyddion bod dau brosiect blaenllaw wedi cael sêl bendith i symud ymlaen i ail gymal Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Darllen erthyglYmchwilio effaith chwalu ysgafellau iâ yr Antarctig
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymweld â’r Antarctig er mwyn ymchwilio i’r ffordd mae ysgafellau iâ yn chwalu a’r effaith bosibl ar y cynnydd yn lefel y môr.
Darllen erthyglCanolfan ymchwil newydd ym maes llenyddiaeth a hanes meddygaeth yng Nghymru
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i sefydlu Canolfan Ymchwil newydd a fydd yn elwa ar gasgliad cyfoethog ac amrywiol y Llyfrgell o weithiau printiedig yn ymwneud â meddygaeth ac iechyd yng Nghymru.
Darllen erthyglBecws o Gymru yn edrych i fanteisio ar ymchwil gyda chacennau maethlon
Mae cwmni pobi o ogledd Cymru yn edrych i ehangu ystod eu cynnyrch gyda chacennau mwy maethlon sy’n cynnwys powdr madarch iach, diolch i gymorth ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglCanfod heintiau mewn anifeiliaid gyda deallusrwydd artiffisial
Mae gwyddonwyr wedi datblygu dull cyflymach o ganfod parasitiaid mewn da byw gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
Darllen erthyglPrifysgol Aberystwyth yn lansio Canolfan Deallusrwydd Artiffisial i archwilio technoleg bwysicaf y ddegawd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio canolfan newydd i astudio deallusrwydd artiffisial mewn ymateb i dechnoleg sy'n cyflwyno rhai o'r cyfleoedd mwyaf y degawd hwn i weddnewid cymdeithas.
Darllen erthyglAcademydd o Aberystwyth yn bwrw goleuni ar ofnau’r nos yn ei chyfrol gyntaf "ryfeddol"
Mae llyfr newydd rhyfeddol gan academydd o Aberystwyth yn edrych ar ein credoau difyr, rhyfedd weithiau, am anhwylderau cysgu.
Darllen erthyglRhodd hael i ariannu ymchwil ar Gwenallt a datblygiad y gyfraith yn yr Hen Goleg
Mae ymchwil i waith y bardd Gwenallt a chynllun i ddatblygu Ystafell y Gyfraith a Llys Dadlau newydd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg wedi derbyn hwb ariannol sylweddol.
Darllen erthyglSychder eithafol a sbardunodd trawsnewid diwylliannol ac esblygiad dynol
Mae ymchwil newydd yn dangos bod sychder eithafol a barodd ddegau o filoedd o flynyddoedd wedi chwarae rhan hollbwysig yn esblygiad dynol, drwy orfodi Homo sapiens i ddatblygu'r diwylliant a'r offer i ymdopi.
Darllen erthyglProsiect Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi cymunedau mewn gwrthdaro byd-eang
Mae dysgu gan dyfwyr coffi brodorol sy’n eu hamddiffyn eu hunain rhag trais arfog yng Ngholombia yn rhan o un o’r prosiectau ymchwil newydd a gyllidir gan rwydwaith rhyngwladol dan arweiniad y Brifysgol.
Darllen erthyglDysgu o rannau eraill y DG i ddiogelu ffermydd Cymru rhag TB – cynhadledd yn Aberystwyth
Mae dysgu o’r arfer bioddiogelwch gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn allweddol er mwyn atal twbercwlosis rhag lledaenu yng Nghymru, yn ôl arbenigwr blaenllaw a fydd yn siarad mewn cynhadledd yn Aberystwyth.
Darllen erthyglY myfyrwyr nyrsio cyntaf yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau heddiw.
Darllen erthyglGallai iaith fyd-eang newydd ar gyfer newidiadau tir esbonio colled ecosystemau
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyd-ddatblygu iaith gyffredinol i ddisgrifio byd sy’n newid, a allai helpu i ddatgelu’r hyn sy’n achosi colli ecosystemau a difrod amgylcheddol.
Darllen erthyglProfi ffyrdd newydd o olrhain dietau pobl er lles iechyd y cyhoedd
Bydd ymchwilwyr yn dechrau profi technegau, gan gynnwys camerâu gwisgadwy a phrofion wrin a gwaed, mewn ymdrech i fesur arferion bwyta’r Deyrnas Gyfunol yn fwy cywir a gwella iechyd y cyhoedd.
Darllen erthyglCysylltiad posibl rhwng morfilod peilot yn mynd yn sownd ar draethau a ‘tharfu ar y teulu’ yn ôl ymchwil newydd
Mae’n bosibl bod cysylltiad rhwng morfilod peilot yn mynd yn sownd ar raddfa fawr ac amharu ar eu grwpiau teulu yn ôl ymchwil newydd.
Darllen erthyglProsiect ymchwil biomas i daclo newid hinsawdd yn derbyn buddsoddiad o £2m
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gallu cyflymu’r broses o fridio miscanthus, y glaswellt ynni lluosflwydd, fel rhan o becyn gwerth £37 miliwn gan lywodraeth y DU i hybu cynhyrchiant biomas.
Darllen erthyglPennaeth newydd Adran Gwyddorau Bywyd Aberystwyth
Mae’r Athro Iain Barber wedi’i benodi’n Bennaeth newydd Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth.
Darllen erthyglNid yw trafod ‘colled ddysgu’ yn sgil y pandemig yn ddefnyddiol nac yn gywir – cyflwyniad yn yr Eisteddfod
Yn groes i’r 'golled ddysgu' y cyfeirir ati’n aml, mae llawer o ddisgyblion ysgol Cymru wedi elwa o wahanol brofiadau dysgu wrth iddynt addasu i'r newid i ddysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, yn ôl ymchwil y bu academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn rhan ohoni.
Darllen erthyglPrifysgol Aberystwyth yn dathlu effaith eithriadol ei hymchwil
Mae gwella gofal lliniarol a mynediad at gyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef cam-drin domestig yn ddau o blith pedwar o brosiectau ymchwil sydd wedi ennill gwobrau am eu heffaith yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Darllen erthyglPenodi academydd Aberystwyth yn gadeirydd grŵp dileu TB y llywodraeth
Mae’r Athro Glyn Hewinson o Brifysgol Aberystwyth wedi ei benodi’n gadeirydd Grŵp Cynghori Technegol newydd ar Dwbercwlosis (TB) gwartheg Llywodraeth Cymru.
Darllen erthyglHarneisio grym theatr i ymchwilio i effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys
Mae academyddion o'r Brifysgol, sy'n ystyried dylanwad cyfieithu ar y pryd ar achosion llys, wedi mabwysiadu offeryn ymchwil mewn prosiect sy’n cyfuno’r theatr a'r gyfraith mewn modd arloesol.
Darllen erthygl