Aros yn Aber dros wyliau'r Nadolig?

Old College in the picture and snow on the roof and surrounding grounds.

Ydych chi'n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau'r Nadolig?

Os felly, peidiwch â phoeni. Byddwch mewn cwmni da! Nid chi fydd yr unig fyfyriwr sy'n aros yn y Brifysgol dros yr Ŵyl. Mae llawer o fyfyrwyr, rhai o wledydd Prydain a rhai o dramor, yn aros yn Aber yn ystod gwyliau'r Gaeaf. 

Bydd y canllawiau hyn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd ar y Campws ar gyfer myfyrwyr drwy fis Rhagfyr a gwyliau'r Gaeaf. Mae'n cynnwys dolenni i ddigwyddiadau, gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ac amseroedd agor gwasanaethau allweddol ar y Campws yn ystod yr egwyl.

 

Cael Gafael ar Gymorth yn Ystod Gwyliau'r Gaeaf 

Wrth i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr gau ar gyfer gwyliau'r Nadolig, mae’n debyg y cewch y Brifysgol yn dawelach nag yn ystod y tymor. Peidiwch â phoeni – bydd rhywfaint o gefnogaeth ar y campws o hyd i'ch helpu os bydd ei hangen arnoch.

 

Beth alla i gymryd rhan ynddo cyn y gwyliau?

Trwy gydol mis Rhagfyr fe fydd digonedd o weithgareddau a digwyddiadau Nadoligaidd yn cael eu cynnal. Mae ein Tîm Bywyd Preswyl wedi gwneud yn wych eleni wrth ddathlu’r Nadolig â digwyddiadau Nadoligaidd drwy gydol mis Rhagfyr. Bydd pob digwyddiad yn cael ei hysbysebu ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol - Instagram a Facebook (@Bywydaberlife IG a BywydaberLife FB). 

Yn eu plith fe fydd noson Carol-oce a Pitsa, nosweithiau ffilm, crefftau’r Nadolig, bingo Nadoligaidd, cwis y Nadolig, coffi am ddim gyda mins peis, helfa drysor, a sesiynau galw heibio i’r rhai sy’n chwilio am gymorth. Felly dewch yn llu i gael blas ar naws y Nadolig. 

Mae UM Aber yn cynnal gweithgareddau cymunedol arbennig trwy gydol mis Rhagfyr, gan gynnwys sesiwn Cwrdd a Chyfarch i fyfyrwyr sy'n aros yn Aber dros wyliau'r Nadolig, lle y gallant gael pecyn cymorth i’r gaeaf. Edrychwch ar y dudalen ddigwyddiadau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd a sut i gymryd rhan. Neu ewch i'w tudalen In  i gael gwybod mwy.

Mae'r Undeb hefyd wedi creu Grŵp Facebook i rannu’r diweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau, yn ogystal â rhoi modd i chi gyfathrebu â myfyrwyr eraill sydd yn Aber dros wyliau'r gaeaf. 

Pryd fydd y Brifysgol yn cau?

Bydd y Brifysgol ar gau o 16:30 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr 2023 a bydd yn ailagor ac yn ôl i’w threfn arferol ddydd Mercher, 3 Ionawr 2023. Mae hwn yn gyfnod o wyliau felly ni fydd y rhan fwyaf o’n staff yn gweithio ac ni fyddant yn darllen negeseuon e-bost yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd Adeilad Undeb y Myfyrwyr yn cau o 16:00 ddydd Mercher 20 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Mercher 3 Ionawr, 10:00-16:00 ar gyfer yr wythnos gyntaf. Ni fydd rhai o staff Undeb y Myfyrwyr ar gael o’r 21ain o Ragfyr, ond bydd modd cysylltu â’r dderbynfa drwy e-bost ar undeb@aber.ac.uk.

Chwilio am gymorth brys? Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ar y campws 24/7.

Os bydd angen ichi gysylltu â’r Brifysgol pan fydd ar gau, ewch i Dderbynfa’r Campws (wrth fynedfa Campws Penglais – bydd ar agor 24/7), neu ffoniwch Linell Gymorth y Brifysgol, sydd ar agor 24/7, ar 01970 622900. Bydd modd i’r tîm Diogelwch roi cymorth, ac os ydych chi’n profi argyfwng, gallant eich cyfeirio at ein tîm ar alwad.

Gwasanaeth Diogelwch y Campws

Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ac yn bresennol ar y campws 24/7, fel y mae bob amser. Mae swyddfa’r Gwasanaeth Diogelwch i’w chael yn Adeilad Derbynfa'r Campws ger prif fynedfa campws Penglais. Byddant yn rheoli mynediad a diogelwch adeiladau a neuaddau preswyl y Brifysgol yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Bydd y tîm yn ‘ymatebwyr cyntaf’, yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau ac argyfyngau ac yn rheoli unrhyw sefyllfaoedd o’r fath ar y Campws. Gellir cysylltu â swyddfa’r gwasanaeth Diogelwch ar 01970 622 900. 

Cymorth yn y Neuaddau Preswyl

 Bydd y Swyddfa Llety ar agor tan 15:00 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr, a bydd yn cau wedi hynny tan 08:30 ar ddydd Mercher, 3 Ionawr 2023. Os oes angen cymorth arnoch chi yn ystod y cyfnod hwn, ewch i brif dderbynfa’r campws. Bydd rhywun yno 24/7.

Dyma oriau agor y mannau Cymdeithasol yn y neuaddau rhwng 22 Rhagfyr  a 3 Ionawr:

  • Y Sgubor - mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
  • Y Ffald - mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
  • Lolfa Rosser – mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber
  • Lolfa PJM– mynediad 24/7 drwy Gerdyn Aber

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau cynnal a chadw, ffoniwch dîm Diogelwch y Campws ar 01970 622 900.

Llyfrgelloedd

Bydd Llyfrgelloedd Hugh Owen a'r Gwyddorau Ffisegol yn cau am 16:30 ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023, ac yn ailagor am 8:30 ddydd Mercher 3 Ionawr. Gweler tudalennau gwe Oriau Agor y Llyfrgell. 

Mae Ystafell Astudio Iris de Freitas ar agor 24/7 o ddydd Gwener 22 Rhagfyr tan ddydd Mercher 3 Ionawr i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, gan ddarparu mannau astudio, cyfrifiaduron, mannau astudio mewn grwpiau, peiriannau gwerthu bwyd a diod ac argraffydd/llungopïwr. Cewch fynd i mewn i Ystafell Astudio Iris de Freitas yn ystod y gwyliau gan ddefnyddio’ch Cerdyn Aber, drwy ystafell Herman Ethé. Gwyliwch y fideo i gael cyfarwyddiadau. 

Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau

Mannau Arlwyo

Bydd y rhan fwyaf o'n siopau arlwyo ar agor tan ddydd Gwener 22 Rhagfyr, a bydd yn ail-agor ddydd Mercher 3 Ionawr. Gellir gweld oriau agor y mannau unigol yn Nadolig 2023. O ran y myfyrwyr sy'n byw ar y campws neu yn y cyffiniau, mae'n werth nodi bod siopau lleol, gan gynnwys CK's ac Subway, ar agor drwy gydol y gwyliau heblaw am ddiwrnod y Nadolig.

Cymorth Ariannol

Bydd y gwasanaeth Cyngor ac Arian ar agor hyd dydd Gwener 22 Rhagfyr a bydd yn dychwelyd i’r oriau gwaith arferol o ddydd Mercher 3 Ionawr.

Ni fydd unrhyw geisiadau caledi ar-lein sy’n dod i law yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu prosesu tan ar ôl y cyfnod cau. Os oes gennych broblemau ariannol yn ystod y cyfnod hwn, cysylltwch â'r staff ar ddyletswydd y tu allan i oriau swyddfa ar 01970 622 900.

Eich lles

Bydd ein Tîm Lles Myfyrwyr yn cymryd hoe yn ystod cyfnod y gwyliau. Ni fyddant ar gael ar ôl 22 Rhagfyr a byddant yn ôl o ddydd Mercher 3 Ionawr. Os oes gennych bryderon brys yn ymwneud â lles, iechyd meddwl a/neu ddiogelwch, gweler ein tudalen 'Mewn Argyfwng Nawr?' sy’n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i'ch cyfeirio at y cymorth priodol yn gyflym. Os oes gennych bryderon uniongyrchol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill, defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael cymorth brys:

Cofiwch bwysigrwydd siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt, gadewch i'ch teulu neu’ch ffrindiau wybod sut mae pethau’n mynd. Efallai y byddant yn gallu cynnig cefnogaeth a helpu i'ch cadw'n ddiogel. 

Os hoffech ddefnyddio Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn 2024, cofrestrwch yn ystod y cyfnod hwn trwy lenwi ffurflen Gofrestru’r Gwasanaeth Lles. Byddwn wedyn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib ar ôl dychwelyd. 

Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ynghylch lles sydd ar gael i fyfyrwyr:

Togetherall:  Er y gall tymor y gwyliau fod yn gyfnod o lawenydd, diolchgarwch ac agosatrwydd, gall hefyd fod yn gysylltiedig â phwysau teuluol ac ariannol, unigrwydd, pryder a thensiwn. Hyd yn oed os ydych chi’n edrych ymlaen at y gwyliau, mae'n naturiol cael cyfnodau o straen ac anhawster. Edrychwch ar awgrymiadau’r Dr Ben Locke, sef Prif Swyddog Clinigol Togetherall, ar gyfer ymdopi yn ystod y gwyliau ️ ac os oes angen mwy o gymorth arnoch, gallwch ymuno â Togetherall trwy fynd i’w gwefan.

Adnoddau Lles

A-Y o LlesA-Y o Lles

O dan ofal meddyg teulu, gwasanaethau iechyd meddwl neu arbenigwyr eraill?:

Rydym yn eich cynghori i ystyried eich anghenion a sut i gael gafael ar wasanaethau dros dymor y gaeaf. Sicrhewch fod gennych ddigon o unrhyw foddion sydd ar bresgripsiwn, a’ch bod yn gwybod pryd bydd y gwasanaeth ar agor ar gyfer apwyntiadau os bydd eu hangen. Mae gwybodaeth am feddygon teulu a’r ysbyty lleol yn ardal Aberystwyth ar gael yma: https://www.nhs.wales/hpb/local-services/

Cymorth gyda'ch aseiniadau

Mae gennym ystod eang o adnoddau ac offer dysgu i'ch helpu i astudio'n effeithiol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Mae'r ddwy Lyfrgell ar agor yr wythnos cyn y Nadolig ac mae cymorth ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth hyd at 16:30 ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth a'r Llyfrgelloedd yn ailagor yn llawn am 08:30 ddydd Mercher 3 Ionawr 2024.

Mae llawer o adnoddau'r llyfrgell ar gael ar-lein trwy Primo, catalog y llyfrgell. Mae fideos ar gael ar "Sut i ddod o hyd i e-lyfr" ac ar gael gafael ar adnoddau os nad ydych ar y campws. I gael rhagor o gymorth astudio ar-lein, edrychwch ar y cynhwysfawr LibGuides.

Gwasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell i fyfyrwyr dros y gwyliau

Eisiau dysgu sgil newydd dros wyliau'r gaeaf?

Beth am ddysgu sgil newydd dros wyliau'r Nadolig? Edrychwch ar y cyrsiau a'r adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning - boed hynny ar gyfer eich aseiniadau neu ddim ond am sbort. Gallwch ddatblygu ystod o sgiliau newydd, yn amrywio o sut i godio, i dynnu ffotos gwych â'ch ffôn. Dyma restr o 12 cwrs i chi roi cynnig arnynt dros 12 diwrnod y Nadolig:

  1. Cyflwyniad i Ddylunio Graffig (53 munud)
  2. Dysgu Python – Heriau Codio (3 awr 5 munud)
  3. Tynnu ffotos gwych â’ch ffôn (54 munud)
  4. Arferion Hapusrwydd (48 munud)
  5. Dechrau Gwersi Cerddoriaeth ar y Gitâr Acwstig (3 awr 5 munud)
  6. Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio Excel (44 munud)
  7. Optimeiddio'ch iPhone i’ch helpu i ganolbwyntio, bod yn gynhyrchiol, ac i wella’ch lles (17 munud)
  8. 7 ffordd o gael gwared ar straen (9 munud)
  9. Her Darlunio 5-Diwrnod: Ysbrydoliaeth ar gyfer Tynnu Lluniau (29 munud)
  10. Cwsg yw'ch Pŵer Arbennig (34 munud)
  11. Cyllidebu mewn Bywyd Go Iawn (44 munud)
  12. Awgrymiadau ar gyfer Defnyddio PowerPoint (32 munud)

Yn y gymuned

Ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud dros wyliau’r gaeaf? Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygaid am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned leol.