Technoleg i’ch Busnes
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio’n agos â busnesau i ddatblygu a masnacheiddio technolegau o safon fyd-eang.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein swyddfa Trosglwyddo Technoleg wedi llwyddo i drwyddedu nifer o gynhyrchion a gwasanaethau, ac wedi sefydlu nifer o gwmnïau Deillio ar sail arloesedd Prifysgol Aberystwyth.
Rydym yn croesawu pob ymholiad a mynegiad o ddiddordeb yn ein portffolio technoleg, ac yn falch o gynnig gwasanaeth proffesiynol a gwybodus i fyd diwydiant.
Apiau Symudol
Mae ein portffolio o apiau symudol ar gael i'w lawrlwytho o siop iTunes (chwiliwch am Aber Trading).