Gall bara gwyn mwy maethlon fod ar y silffoedd, diolch i gyllid

Dr Catherine Howarth, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

Dr Catherine Howarth, IBERS, Prifysgol Aberystwyth

01 Mai 2024

Gall bara gwyn iachach ymddangos yn fuan ar silffoedd pobwyr a siopau bwyd ar draws y Deyrnas Gyfunol, diolch i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy gydweithio gyda melinwyr organig blaenllaw Shipton Mill, bydd y tîm yn Aberystwyth yn astudio'r broses falu a chymysgu ar gyfer blawd gwyn.

Mae’r gwaith, a allai weld pys, ffa a cheirch o’r Deyrnas Gyfunol yn cael eu hychwanegu at flawd gwenith i hybu ei werth maethol, wedi’i ariannu gan fenter ‘Gwell Bwyd i Bawb’ Innovate UK.

Mae’r prosiect yn un o 47 o brosiectau buddugol i dderbyn cyfran o £17.4 miliwn gan Innovate UK i wella ansawdd bwyd, creu bwydydd ymarferol, hybu maeth, datblygu proteinau newydd, ac ymestyn oes silff bwydydd iach a ffres.

Dywedodd Chris Holister o Shipton Mill:

“Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ein cred mai amrywiaeth a naturioldeb yw’r ffordd i fesur llwyddiant cnwd, nid cyflymder a thwf. Wrth falu, ein crefft yw darparu i bobwyr ganlyniadau ardderchog a dibynadwy sy’n gweithio gyda natur a beth mae’r hinsawdd a thymhorau yn gallu cynnig. Gobeithio y gall y gwaith helpu gyda chreu dietau iachach a mwy llawen ar gyfer llawer iawn o bobl.

“Gyda phrosiectau fel hyn, mae gennym ni yn niwydiant bwyd y Deyrnas Gyfunol gyfle i gael effaith gadarnhaol: creu cynhyrchion ac atebion arloesol a allai wella iechyd pobl a chreu swyddi yn y sector.”

Gyda 65% o holl geirch y Deyrnas Gyfunol wedi’u tyfu o fathau wedi’u datblygu yn Aberystwyth, mae’r Brifysgol yn cael ei chydnabod fel canolfan flaenllaw ar gyfer datblygu mathau newydd o geirch, ffa a phys.

Bydd y prosiect ymchwil yn defnyddio cyfleusterau campws arloesi’r Brifysgol, ArloesiAber.

Dywedodd Dr Catherine Howarth o sefydliad ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i wella dietau pobl, yn enwedig y rhai sy’n ffafrio ymddangosiad a nodweddion synhwyraidd bara gwyn. Mae’r prosiect yn tanlinellu sut mae ein hymchwil planhigion sy’n arwain y byd yma yng Nghymru yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Felly, gobeithio y bydd hwn yn gyfle arall i ni wneud defnydd da iawn o’n gwaith yma, yn enwedig ar ffa, ceirch a phys.”

Ychwanegodd Dr Amanda Lloyd o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae diet gwael yn chwarae rhan fawr mewn afiechyd, clefydau cronig a chyfran sylweddol o achosion o ganser. Mae cyfraddau gordewdra yn uchel iawn yn y Deyrnas Gyfunol, gyda chostau tybiedig i’r gwasanaeth iechyd yn £9.7 biliwn erbyn 2050 a bron i £50 biliwn y flwyddyn i’n cymdeithas. Gan ddefnyddio ein harbenigedd yn y Brifysgol, rydyn ni’n gobeithio y gall y prosiect hwn chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon o afiechydon a lles sy’n gysylltiedig â’r diet.

“Yn ogystal, bydd y prosiect yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i’r Deyrnas Gyfunol a bydd yn sefydlu’r wlad ymhellach fel arweinydd yn y marchnadoedd blawd a bwydydd sy’n seiliedig ar flawd.”

Dywedodd Dr Stella Peace, Cyfarwyddwr Gweithredol y Maes Byw’n Iach ac Amaethyddiaeth yn Innovate UK:

“Mae'r prosiectau hyn yn amlygu ystod eang ac ansawdd gwaith arloesol y sector bwyd-amaeth yn y Deyrnas Gyfunol. Gyda heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, cynaliadwyedd a maeth, mae angen atebion creadigol i gael effaith wirioneddol.

“Yn Innovate UK, rydym ni wedi ymrwymo i ysgogi newid trawsnewidiol mewn cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd er mwyn llywio economi’r dyfodol a chymdeithas yn gyffredinol.”