Athro o Aberystwyth yn arwain ei seremoni swyddogol gyntaf fel Archdderwydd

Yr Athro Mererid Hopwood (dde) yn olynu Myrddin ap Dafydd (chwith) fel Archdderwydd Gorsedd Cymru. Mae Myrddin ap Dafydd yn gyn-fyfyriwr o adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn 2022.

Yr Athro Mererid Hopwood (dde) yn olynu Myrddin ap Dafydd (chwith) fel Archdderwydd Gorsedd Cymru. Mae Myrddin ap Dafydd yn gyn-fyfyriwr o adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn 2022.

30 Ebrill 2024

Mae'r bardd arobryn ac Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Mererid Hopwood, wedi arwain ei seremoni swyddogol gyntaf fel Archdderwydd, pennaeth Gorsedd y Beirdd.

Bydd Mererid, sydd wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, yn arwain yr Orsedd tan 2027, gan gynnwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni.

Ddydd Sadwrn 27 Ebrill, arweiniodd ei seremoni swyddogol gyntaf - sef Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam - a gynhaliwyd i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2025.

Bu dros 500 o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy strydoedd dinas Wrecsam, ac yna cynhaliwyd seremoni liwgar yng Nghylch yr Orsedd ar Lwyn Isaf yng nghanol y ddinas. 

Roedd gan yr Archdderwydd neges gref yn ei hanerchiad cyntaf o’r Maen Llog, wrth drafod yr angen am heddwch, wrth iddi egluro pwrpas cleddyf yr Orsedd, gan ddweud:

“Cleddyf na bydd fyth yn cael ei dynnu o’r wain. Cleddyf Heddwch felly. Arwydd o’n dyhead ni i weld diwedd ar ryfel a thrais.

“Ac mae’r dyhead hwnnw’n fawr heddiw. Boed ‘i’r iawn bwyll arwain y byd’ ddwedodd Iolo Morgannwg. Ac o’n gorsedd heddwch ni yn Wrecsam, rydym ni, bobl gyffredin Cymru, yn galw ar bobl gyffredin y byd i wrthod syniadau’r arweinwyr sy’n gofyn am fwy o gleddyfau a bomiau a thaflegrau, ac yn dweud 'digon yw digon'."

Bydd Mererid yn ymgymryd â swydd yr Archdderwydd tan 2027.  Mae hi'n olynu Myrddin ap Dafydd, yn gyn-fyfyriwr ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, a fu'n Archdderwydd rhwng 2019-24.  

Cynhelir yr Eisteddfod eleni ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.  Am fwy o wybodaeth, gweler www.eisteddfod.cymru.

Yr Athro Mererid Hopwood

Mae’r Athro Hopwood yn adnabyddus am ei chyfraniad aruthrol i iaith a diwylliant y Gymraeg. Enillodd ei chasgliad o farddoniaeth, Nes Draw, wobr Llyfr y Flwyddyn yn yr Adran Farddoniaeth 2016, a chipiodd ei nofel gyntaf i blant wobr Tir na n-Og yn 2018.  Mae hi’n gweithio’n ddiflino i hybu apêl eang y gynghanedd, ac mae hi’n gyn Fardd Plant Cymru ac yn Gymrawd Rhyngwladol Gwyl y Gelli.  Mae ei chyfieithiadau llenyddol i’r Gymraeg yn cynnwys Tŷ Bernarda Alba gan Lorca a’r Cylch Sialc gan Brecht i Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae’r Athro Hopwood wedi cyhoeddi ymchwil ym meysydd Addysg a Llenyddiaeth gan gynnwys astudiaethau ar addysgeg iaith ac ar waith Waldo Williams. Yn 2023, dyfarnwyd Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli iddi. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.