Newyddion a Digwyddiadau
Am y diweddaraf am ein systemau a'n gwasanaethau, ewch i'r Blog Diweddariadau Gwasanaethau GG
Paratoi ar gyfer arholiadau
02/05/2024
Mae cyfnod yr arholiadau bron yma. Edrychwch ar ein harddangosfa adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen. Fe welwch lawer o gyngor ac adnoddau ymarferol ar ystod eang o sgiliau pwysig, gan gynnwys:
- adolygu effeithiol
- rheoli eich amser
- mynd i'r afael â chwestiynau arholiadau
Cymerwch gip ar yr 20 awgrym defnyddiol ar gyfer adolygu ac arholiadau yr argymhellwyd gan gyd-fyfyrwyr.
Cyngor ac arweiniad pellach ar gael yn SgiliauAber – Adolygu ac arholiadau: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/exams/
Lefel E ar ei newydd wedd - Ystafell gyfrifiaduron EL6 yn cau 20 Mai
24/04/2024
Yr haf hwn, bydd newidiadau ar Lefel E (ail lawr) Llyfrgell Hugh Owen.
Byddwn yn symud rhai mannau i staff a myfyrwyr o gwmpas i greu gofod mwy i fyfyrwyr ac i greu rhagor o fannau astudio yng nghornel de-orllewinol y Llyfrgell. Bydd gan yr ardal astudio newydd olygfeydd dros y dref i’r môr ac yn cynnwys 6 ystafell astudio grwp newydd.
Am ragor o fanylion ar y newidiadau, gan gynnwys y dyddiadau allweddol a mapiau o'r ardaloedd a fydd yn newid, ewch i'n tudalen Newidiadau Lefel E
Diolch am eich adborth - Blackboard Learn Ultra
09/05/2024
Diolch i bawb sydd wedi cymryd amser i rannu eu meddyliau am Blackboard Learn Ultra dros yr wythnos ddiwethaf wrth gwblhau arolwg ac wrth ddod i grwp ffocws. Rydym wedi dysgu llawer am eich profiadau, yr hyn sy’n dda a’r hyn allai gael ei wella. Cadwch lygad am welliannau!
A llongyfarchiadau i enillydd y lamp desg LED, Claire Pittman, a ddewiswyd ar hap.
Bwyd a diod yn y Llyfrgell
01/05/2024
Mi gewch chi ddod â diodydd poeth a diodydd oer mewn poteli/cwpanau gyda chaeadau a bwydydd oer (nad yw'n ddrewllyd nac yn seimllyd) i mewn i'r Llyfrgell.
Chewch chi ddim dod â bwydydd poeth o unrhyw fath, na bwyd tecawe sydd wedi oeri nac alcohol i mewn.
Byddwn yn gofyn ichi fynd â'ch bwyd allan os ydych yn torri'r rheolau hyn. Byddwch yn ystyriol o'r Llyfrgell a'r bobl eraill sy'n ei defnyddio hi os gwelwch yn dda.
Ein polisi llawn: https://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/fooddrink/
Recordiadau ac adnoddau SgiliauAber ar Blackboard Learn Ultra
02/05/2024
Mae deunyddiau addysgu ein Gweithdai SgiliauAber, gan gynnwys recordiadau, cyflwyniadau, ac adnoddau defnyddiol, ar gael drwy’r Mudiad Blackboard Learn Ultra SgiliauAber / AberSkills - felly os ydych chi wedi colli sesiwn, peidiwch â phoeni! Daliwch i fyny ar-lein ar Blackboard ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Sesiynau galw-heibio mathemateg ac ystadegaeth, Llyfrgell Hugh Owen
01/05/2024
Wyt ti’n cael trafferth gyda chwestiwn mathemateg neu ystadegaeth?
Chwilio am gymorth?
Ymwelwch â’r sesiwn galw-heibio mathemateg ac ystadegaeth wythnosol (yn ystod tymor)
- Dydd Iau
- 10:00-13:00
- Hwb Sgiliau, Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen (drws nesaf i’r man gwerthu)
Gallwch hefyd anfon neges e-bost i maths-help@aber.ac.uk os na allwch wneud y sesiwn galw-heibio.
Sesiynau Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu - Mai 16
13/05/2024
Mai
16/05 Generative AI Discussion Forum (L&T Online)
Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi'r Prif Siaradwr
03/05/2024
Mae'n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi'r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.
Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, neu i gyflwyno cynnig, gweler ein blogbost.
Ffeithluniau cryno SgiliauAber
26/04/2024
Traethodau. Adroddiadau. Cyflwyniadau. Posteri academaidd. Cymryd nodiadau. Geiriau tasg.
- Eisiau deall beth mae aseiniad yn gofyn i chi ei wneud?
- Angen gwybod beth mae gair tasg penodol yn ei olygu?
- Chwilio am arweiniad a deunydd ar sut i ysgrifennu eich aseiniadau?
Mae yna gyfres newydd o ffeithluniau cryno ‘Sut i ysgrifennu…’ ar gael yn SgiliauAber:
Defnyddio ystafelloedd astudio'r llyfrgell
12/04/2024
Rydyn ni'n gwybod ei bod yn boen os ydych chi am ddefnyddio ystafell astudio llyfrgell ond maen nhw i gyd wedi archebu.
Mae’n fwy o boen fyth os yw'r ystafell wedi'i harchebu, ond does neb yn ei defnyddio.
Cofiwch ganslo eich ystafell os nad oes ei hangen arnoch mwyach – e-bostiwch gg@aber.ac.uk – a byddwn yn rhyddhau'r ystafell ar gyfer myfyrwyr eraill.
Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol
22/04/2024
Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) mewn saith maes.
Darllenwch y blogbost hyn am wybodaeth pellach.
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk