Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod o gyrsiau hyfforddiant e-ddysgu ar-lein yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, ac yr ydym yn disgwyl i bob aelod o staff eu cwblhau.

Cyrsiau Ar-lein

  1. Amrywioldeb yn y Gweithle (1 awr)
    • ⁠ymgyfarwyddo â deddfwriaeth cydraddoldeb
    • meithrin dealltwriaeth o'r materion ehangach sy'n cwmpasu cydraddoldeb ac amrywioldeb
    • gwella eu hymwybyddiaeth o'u cyfrifoldebau a'u hawliau fel aelodau o staff
  2. Rhagfarn Ddiarwybod (30 munud)
    • Bydd 'Torri Arferion' yn helpu eich gweithwyr i ddeall goblygiadau'r rhagfarnau naturiol sydd gennym i gyd.
  3. (Newydd) Gadewch i ni siarad am Hil yn y Gweithle (30 munud)
    • Cefnogi dysgwyr i fynd i'r afael â rhagfarn hiliol yn eu sefydliad a gwneud hynny yn ymwybodol ac yn rhagweithiol.
    • Cyflwyno’r ffeithiau a'r ystyriaethau ynghylch hiliaeth systemig mewn sefydliadau. 

Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu trwy gyfrwng tiwtorial ar-lein.  ⁠Gellir cyflawni'r tiwtorial mewn un eisteddiad neu ar fwy nag un achlysur fel sy'n gyfleus. Mae'r cwrs Amrywioldeb yn y Gweithle yn cynnwys cwis y mae'n rhaid ei gwblhau er mwyn gorffen yr hyfforddiant.  Bydd marciau'r cwis yn cael eu cadw a byddant yn cael eu defnyddio i nodi anghenion hyfforddi pellach ar gyfer staff.

Mae'r hyfforddiant yn arbennig o bwysig i aelodau o staff sy'n ymgymryd â'r rolau a'r cyfrifoldebau canlynol yn y Brifysgol:

  • Rheolwr Llinell
  • Rheolwyr recriwtio, aelodau'r panel cyfweld a chreu rhestr fer cyn dewis ymgeiswyr ar gyfer rhestr fer neu gyfweliad.  
  • Prif-ymchwilydd/cyd-ymchwilydd ar brosiect ymchwil.
  • Staff sy'n cymryd rhan mewn pwyllgorau, is-bwyllgorau a grwpiau gweithredol.

Mae'r cwrs ar-lein uchod ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Bedair blynedd ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd staff yn cael eu hailgofrestru i ail-wneud y cwrs er mwyn cynnal eu dealltwriaeth o Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a’u gwybodaeth am unrhyw newidiadau dilynol yn y gyfraith a/neu arferion gorau.  

Lle a sut i fewngofnodi?

https://blackboard.aber.ac.uk/ultra/organizations/_45748_1/outline 

Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA arferol.

Os oes unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r sesiynau tiwtorial hyn, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth is@aber.ac.uk

Hyfforddiant wyneb yn wyneb

Gall y tîm Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant hefyd gynnig hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywioldeb wyneb yn wyneb i adrannau a grwpiau o staff. Os hoffech drafod yr opsiwn yma ar gyfer eich staff cysylltwch ag equality@aber.ac.uk.

Cyrsiau Hyfforddi a Datblygu eraill

Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddi a datblygu eraill yn rheolaidd i staff - gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddiweddaraf a rhagor o wybodaeth yma