Cwrdd â’r Tîm
Mae'r Swyddfa Gynadleddau yn marchnata ac yn gwerthu i holl gwsmeriaid busnes preswyl allanol y Brifysgol, ac yn darparu gwasanaeth cynadledda a lletygarwch hanfodol i'n cwsmeriaid mewnol yn ogystal - adrannau academaidd a gwasanaethau. Ymhlith yr hyn a gynigir gennym y mae cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, teithiau grŵp, llety ar gyfer teuluoedd a grwpiau ar wyliau, gwaith maes ar gyfer ysgolion a cholegau a llety dros nos am bris rhesymol.
Fel elusen gofrestredig, mae gweithgareddau masnachol Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i farchnata sefydliadol, yn sicrhau bod gweithlu gweddol fawr yn cael eu cyflogi’n barhaus drwy’r flwyddyn, ac yn gwneud cyfraniad ariannol i gronfeydd adrannol. Mae’r holl bethau hyn yn ei hanfod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n myfyrwyr.
Mae ein tîm yma i'ch helpu:
Prif rif ffôn cyswllt 01970 621960 e- bost conferences@aber.ac.uk neu defnyddiwch ffurflen ymholiadau
Enw | Teitl swydd |
---|---|
Bob McIntyre | Rheolwr Gwerthu'r Swyddfa Gynadleddau |
Sioned Fflur | Cydlynydd Cynadleddau |
Sian Sherman | Cydlynydd Cynadleddau |
Jaya Mukhopadyay | Cynorthwyydd Gwerthu a Digwyddiadau |
Mae ein cydlynwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn barod iawn i roi gwybodaeth, cyfarwyddyd a chyngor, gan gynnwys taith yn rhad ac am ddim a heb ymrwymiad o amgylch ein hadnoddau.
Rydym hefyd yn gallu rheoli digwyddiadau llawn – cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.