Cwestiynau cyffredin

  • Faint yw’r ffioedd dysgu newydd?

£9,250 fydd yr uchafswm newydd a reoleiddir. Dyma'r tro cyntaf i’r ffioedd dysgu gynyddu ers 2011.

  • Pwy fydd newidiadau Llywodraeth Cymru i’r cap ffioedd dysgu yn effeithio arnynt?

Bydd y newid arfaethedig yn effeithio ar fyfyrwyr Cartref sy'n byw yn y DU, dinasyddion yr Iwerddon, a’r rhai hynny o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw ym mhob blwyddyn astudio israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

  • Pryd fydd y cap newydd ar ffioedd dysgu yn dod i rym?

Bydd y myfyrwyr perthnasol yn dechrau talu'r ffioedd ar y cap newydd o’r flwyddyn academaidd 2024/25 ymlaen.

  • Pam mae’r ffioedd dysgu yn cynyddu?

Wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cap, dywedodd iddi wneud hynny er mwyn darparu cyllid ychwanegol i brifysgolion yng Nghymru, er mwyn helpu i ddiogelu’r ddarpariaeth a’r buddsoddiad ym mhrofiad y myfyrwyr.

  • Rwy'n dod o Weriniaeth Iwerddon. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?

Sylwer y bydd dinasyddion yr Iwerddon yn dal i fod ar dir i gael statws ffioedd Cartref a chymorth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin. Byddant yn ddarostyngedig i'r cap ffioedd dysgu newydd lle bo hynny'n berthnasol.

  • Myfyriwr Rhyngwladol ydw i. Sut mae'r newidiadau yn effeithio arna i?

Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu yn effeithio ar hyn mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei dalu o gwbl.

  • Rydw i ar flwyddyn gyfnewid. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?

Byddwn yn dal i ofyn am 15% o'r ffi uchaf a reoleiddir.

  • Rydw i ar flwyddyn dramor. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?

Byddwn yn dal i ofyn am 15% o'r ffi uchaf a reoleiddir.

  • Rydw i ar leoliad gwaith am flwyddyn. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?

Byddwn yn dal i ofyn am 20% o'r ffi uchaf a reoleiddir.

  • Myfyriwr rhan-amser ydw i, sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ffioedd i?

Byddwn yn parhau i ofyn am y ffi pro-rata bwrpasol uchaf a reoleiddir yn ôl y nifer o gredydau yr ydych yn eu hastudio.

  • Myfyriwr uwchraddedig ydw i. Sut mae'r newidiadau yn effeithio arnaf i?

Dim ond israddedigion sydd yn astudio amser-llawn ac yn byw yn y DU, a dinasyddion yr Iwerddon y mae’r ffioedd uwch hyn yn berthnasol iddynt.

  • Rydw i ar gwrs dysgu o bell. Sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arna i?

Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu yn effeithio ar hyn a dalwch o gwbl.

  • Rwyf wedi gohirio dechrau yn y brifysgol. Pa ffi y byddaf i yn ei thalu?

       Byddwn yn cyhoeddi’r ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 yng ngwanwyn 2025 a bydd angen i chi dalu’r swm sy’n berthnasol ar yr adeg honno.

  • A fyddaf yn gallu cymryd lefel uwch o fenthyciad i fyfyrwyr er mwyn talu am y newid mewn ffioedd?

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi diweddaru’r swm y gallwch ei fenthyg i uchafswm o £9,250 i fyfyrwyr cymwys yn sgil penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap. Os ydych wedi gwneud cais i fenthyca'r swm llawn i dalu am eich ffi, bydd y swm hwnnw'n cael ei gynyddu'n awtomatig i £9,250. Y myfyrwyr hynny sydd wedi dewis gwneud cais yn benodol am swm llai na'r swm uchaf yw’r unig rai na chynyddir eu benthyciad yn awtomatig.  Cewch ddysgu mwy am faint y gallwch ei fenthyg yma.

  • Sut y defnyddir yr arian ychwanegol hwn?

Elusen gofrestredig yw Prifysgol Aberystwyth. Mae'r holl incwm a gynhyrchir gan y sefydliad yn cael ei fuddsoddi'n ôl ynddo. Mae cyfran yn cael ei buddsoddi bob blwyddyn mewn gweithgareddau sydd wedi'u targedu at sicrhau bod amrywiaeth ehangach o bobl yn gallu dod i’r brifysgol, at wella’r gefnogaeth a ddarparwn i'n myfyrwyr, ac at wella profiad y myfyrwyr.  Bydd y refeniw ychwanegol a godir gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cap ar ffioedd dysgu yn cael ei drin yn yr un modd. Cewch ddarllen mwy am sut mae eich ffioedd yn cael eu buddsoddi yn y Brifysgol yma.

  • Pa wasanaethau cyngor ariannol mae'r Brifysgol yn eu cynnig?

Rydym yn ymwybodol iawn o'r amgylchiadau economaidd sydd ohoni ac yn sylweddoli y gall rhai o'n myfyrwyr ganfod eu bod mewn caledi ariannol. Os teimlwch eich bod o dan bwysau ariannol, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Cymorth i Fyfyrwyr trwy ebostio cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk neu trwy fynd i’r wefan.  Gall y tîm gynnig cyngor a chefnogaeth amhrisiadwy, yn ogystal â chymorth ariannol i'r rhai mwyaf anghenus.

  • Â phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i fwy o gwestiynau?

Os ydych yn gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi, ebostiwch uagstaff@aber.ac.uk. Os ydych eisoes yn fyfyriwr, ebostiwch ffioedd@aber.ac.uk