Cofnodion Myfyrwyr Dysgu o Bell

ASESIADAU

Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi nesaf.  Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma:
https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/. Os ydych yn sâl, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif meddygol.  Bydd yn llawer mwy anodd newid marciau am fodiwlau unwaith y cytunwyd arnynt gan byrddau arholi’r adran ar Senedd.

Canlyniadau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar y dyddiad canlynol:

Holl fyfyrwyr y flwyddyn olaf:            Dydd Iau 27 Mehefin
Pob myfyriwr arall:                            Dydd Iau 4 Gorffennaf

Asesiadau Ailgynnig: Mae’n hollbwysig eich bod yn gwirio eich canlyniadau ac yn cofrestru eich bwriad OS bydd opsiwn gennych i ailsefyll unrhyw fodiwl (gwaith cwrs neu arholiad) yn ystod y cyfnod Asesiad Ailsefyll nesaf sydd ar gael.

Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei gyfeiriad cartref yn gywir gan mai hwn fydd y cyfeiriad a ddefnyddir i anfon y dystysgrif. Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 18 Mehefin 2024 fan bellaf.

Dylech droi at eich ‘Cofnod Myfyriwr’ yn aml i wneud yn siŵr fod y manylion yn gywir.  Mae hefyd yn bwysig i chi fynd at eich Cyfrif E-bost Fyfyriwr y Brifysgol yn gyson gan mae hyn yw ein prif ddull o gysylltu a chi.

Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch rydym ar gael trwy e-bost, dros y ffôn (gweler isod) a'r cyfleuster sgwrsio ar y dudalen hon.

********************

DECHRAU CWRS GYDA NI NAWR, YDYCH CHI WEDI COFRESTRU?

Os ydych chi wedi gwneud hynny, mae’n bwysig eich bod yn gwirio eich Cynllun Astudio, manylion personol, cyfeiriadau cyswllt ar eich ‘Cofnod Myfyriwr’ nawr.

Dylech ymweld â’ch ‘Cofnod Myfyriwr’ yn aml i wneud yn siŵr ei fod yn gywir ac yn gyfredol. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwirio eich cyfrif myfyriwr e-bost Prifysgol yn rheolaidd gan mai dyma'n aml ein prif ffordd o gysylltu â chi.

Cofrestru - canllawiau pellach ar gyfer cofrestru

Newid Cynlluniau Astudio

Rhaid i fyfyrwyr lenwi Ffurflen Newid Cofrestriad, sydd ar gael I’w lawrlwytho drwy'r eich Cofnod Myfyriwr. Mae modd cael copi hefyd gan eich adran neu gan y Cofrestrfa Academaidd. Dylech gasglu llofnod yr adran a llofnodi'r ffurflen eich hun cyn ei danfon i'r Cofrestrfa Academaidd er mwyn gweithredu arni. Am unrhyw ymholidau ynglŷn â modiwlau, cysylltwch gyda’ch Adran Academaidd.

Newid Manylion Personol

Gallwch newid eich manylion personol drwy eich Cofnod Myfyriwr, dewiswch ddolen 'Bersonol' ar ben y dudalen. Mae’r mwyafrif o newidiadau yn digwydd yn fuan ar ôl eu cyflwyno fodd bynnag, oni bai am newid new, efallai y bydd angen i'r Cofrestrfa Academaidd weld dogfen brawf ar gyfer yr enw newydd. Os oes angen hyn byddwn y Gofrestra Academaidd yn rhowch wybod pa ddogfennaeth sy’n dderbyniol.

Tynnu’n Ôl o'r Astudiaeth

Os ydych yn ystyried tynnu’n ôl yn barhaol neu dros dro o’r Brifysgol, gallwch chi ddechrau’r broses tynnu’n ol trwy eich cofnod myfyrwir.

Am gyfnod penodol, bydd angen i chi wneud cais am gyfarfod gyda’ch adran academaidd, a hynny trwy eich cofnod myfyriwr ar-lein. Ar gyfer dysgwyr o bell cynhelir cyfarfodydd Academaidd dros y ffon new dimau Microsoft. Yn dilyn y cyfarfod, rhaid I chi gadarnhau eich cais trwy eich cofnod myfyrwir I symud eich cais ymlaen i’r cam cadarnhau cyn ei gwblhau.

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell dlrstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 622057
Ysgol Graddedigion ysgol.graddedigion@aber.ac.uk 01970 622219

Oriau Swyddfa

Dydd Llun at Dydd Iau 9am i 5pm
Dydd Gwener 9am i 4pm
Ar gau Dydd Sadwrn a Dydd Sul

Cyfeiriad

Cofrestrfa Academaidd,
Prifysgol Aberystwyth,
Adeilad Cledwyn,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DD

Gwybodaeth Ychwanegol

Cewch wybodaeth ddefnyddiol hefyd ar we-ddalennau eich Adran. Fe'u lluniwyd i roi gwybodaeth penodol i'ch cwrs ac argymhellir eich bod yn bwrw golwg arnynt.